Transcription of William Williams's Introduction, prefixed to the texts of the Hymns in N.Cynhafal Jones's two-volume edition of Gweithiau Williams Pant-y-celyn, 1891, Vol.2 pp.22-23.[ An accented `w' is not available in this font; where a circumflex accent on a `w' appears in the source, it is shown here after the vowel, thus `w^' ]
RHAGYMADRODD YR AWDWR YN Y DRYDEDD ARGRAFFIAD *
-------
AT Y DARLLENYDD
'Rwyf yn dy annerch â Llyfr Hymnau a gafas ei argraffu mewn amryw gopïau ddwywaith o'r blaen, yn awr i gyd yn un, wedi gwella amrywiol feiau'r Argraffwasg, ac ystyr rhai gwersi mewn manau. Yr wyf yn cyfaddef fod rhai (er nid llawer mewn cymhariaeth) o'r Hymnau cyntaf hyn, cuwch o ran sicrwydd ffydd, hiraeth am ymddatod, llawenydd ysbrydol, yn nghyda choncwest ar elynion, na's gall Crist'nogion gweinion yn hawdd eu canu; a hyny a ddygwyddodd nid cymaint am fod yr Arglwydd yn cadw fy enaid fy hun mewn hwyl weddol yr amser hyny, ond yn benaf am fod yr ysbryd hyny wedi cael ei dywallt yn ehelaeth iawn ar dduwiolion, at wasanaeth pa rai yn benaf y cyfansoddwyd hwynt; amryw o ba rai sydd yn awr yn gorwedd yn y llwch. Ond angenrhaid yw i mi amddiffyn fy hun mewn rhan yn hyn, trwy ddadleu o'm plaid: --
Yn 1af, Fod sw^n amrywiol iawn o'r Salmau, os nid y rhan fwyaf, o'r ysbryd hwn o sicrwydd ffydd, congcwest ar elynion, ac ymffrost dduwiol; -- Caniadau Solomon sydd yn llawn o gariad, mwynhâd, a sicrwydd ffydd; ac hyd yn oed Galarnad Jeremi ei hun sydd yn gwaeddi allan, Yr Arglwydd yw fy rhan, medd fy enaid.
Yn 2il, Eglur yw mai dyled y saint yw yn hytrach ymestyn i fyny mewn profiad at Hymnau o sicrwydd ffydd, mwynhâd, llawenydd ysbrydol, a goruchafiaeth ar elynion, na cheisio cael holl ganiadau'r Eglwys at amheuaeth, tywyllwch, a llesgedd.
Ac yn olaf, Nid oes a gân yn hwylus ond sydd wedi profi DUW yn dda iddynt; ond eto mor belled y mae'r dymher hon heb ddim golwg ar waeledd dyn, ardderchaw-grwydd y Cyfammod Newydd, ac ar ogoniant, doethineb, ac anfeidroldeb yr iechydwriaeth yn Nghrist, nid yw yn cytuno â'r Gair, na gwir brofiad; ac yr wyf yn ceisio credu nad oes yma un Hymn o'r fath. Ond yr wyf fyth yn addef(er) pan daethum i adnabod mwy o honof fy hun, a gweled mai Aipht o dywyllwch, môr o aflendid, byd o falchder yw dyn, i'r iechydwriaeth yn Ngrist i gael ei dyrchafu genyf i radd uwch, ac i ddyn a'i ddoniau gael eu diystyru yn rhagor; ac mi wnes fy ngoreu, pa beth bynag fyddai natur yr Hymn, -- achwyniad, erfyniad, ymffrost dduwiol, neu fawl, -- fod Crist yn ganol-bwynt i'r cwbl.
Ac mi wn bod nifer fawr o Hymnau yn yr elfen hono o glodfori'r Iachawdwr, ei Berson, ei Swyddau, ei Naturiaethau, a'i Waith, yn ol y copi a roddir i ni yn y Dadguddiad; yr hwn yw y cywiraf i gyfansoddi Hymnau wrtho at oes y Testament Newydd, heb gofio agos cymaint am yr hyn a weithiwyd ynom ni o ras, ffydd, a phurdeb; ac o bosibl gymaint arall yn achwynion ar, a gweddi yn erbyn, annghrediniaeth, calongaledwch, profedigaethau'r byd, y cnawd, a Satan; fel y gall y rhai gwanaf, a'r llesgaf, ag sydd yn fyd o amheuaeth, os yn unig y maent yn ymofyn am Grist, ac yn gofidio am eu pechod, i'w canu yn hawdd ac yn gydwybodol.
Yr hyn sydd yn fy ngwahodd i roi ychydig gyfarwyddiad i rai fo yn eu rhoi hywynt allan, am fod rhai mor gamsyniol yn nghylch hyn, fel y rho'nt saith neu wyth o wersi allan i gynulleidfa y byddo tair gwers yn ddigon; a rhai ro'nt allan wersi uchel o sicrwydd a mwynhâd i dyrfa fo yn gwadu'r cyntaf, heb brofi mo'r ail; neu wersi o ddiolch am ras a maddeuant i rai nad yw yn ceisio, nac wedi cael y fath beth. Rhai eilwaith a ro'nt wersi o achwynion ac amheuaeth i bobl a fo wedi eu dyrchafu i'r nef, ac yn teimlo bywyd yn eu ffydd, a'r cythraul tan eu traed; megys pe bai un yn cymhell canu am oerfel y gauaf, pan bo'r haul yn twymo boethaf yr haf.
Am hyny, fe ddylai y cyfryw a fo yn eu rhoi hwynt, os posibl yw, fod yn gydnabyddus yn gyffredin pa fath yw y bobl sydd yn eu canu -- pa un ai bod lle i obeithio bod llawer o honynt yn dduwiol ai peidio; neu os ydynt yn dduwiol, pa un ai rhai amheus, llesg, neu rai cryfion, ffyddiog ydynt hwy; ac hefyd pa un ai mewn hwyl o ddiolch neu mewn hwyl o weddi y maent; ac yn olaf, pa un ai yn fwy marw o ran eu teimlad yn bresenol, neu yn fwy byw y maent; ac yn ganlynol, rhoi Hymn i maes ag a fo yn perthyn fwyaf addas i'w cyflyrau. I ba ddyben y rhoddais ystyr pob un o'u blaen, mor nesed ag oedd bosibl, wrth feddwl gynifer o faterion, profiadau, ac athrawiaethau y mae amryw o honynt yn ei gynwys. A bod y cwbl er lleshâd tragywyddol i'ch eneidiau, yw gwir ddymuniad eich annheilyngaf frawd a'ch gwasanaethwr yn yr Efengyl.
W.W
* Hyny yw, y trydydd argraffiad, a chyfrif y ddau argraffiad blaenorol o hono yn Rhanau; ond yr argraffiad cyntaf o hono wedi ei grynhoi yn un llyfr. Gwel y Nodiadau blaenorol.
End of File. Return to Top . . .
Return to Notes on William Williams Pantycelyn - Hymns.
(The Rejoice & Sing Enchiridion:edited by David Goodall; last amended 7/7/01)