The Enchiridion

William Williams, Pant-y-celyn: Ffarwel Weledig, 1763-69

Transcription of William Williams's Introduction, prefixed to the texts of the Hymns in N.Cynhafal Jones's two-volume edition of Gweithiau Williams Pant-y-celyn, 1891, Vol.2 pp.192-3.
_._._._._._._

RHAGYMADRODD YR AWDWR

-------

Mae cymaint o Hymnau wedi dyfod atom yn ddiweddar fel y mae yn edrych yn waith diangenrhaid i argraffu rhagor; ond gwybydded y sawl sydd yn meddwl hyn, mai nid dynion â chanu ynddynt yw y rhai sydd yn gweled digon a gormod o Hymnau; fel mai nid y rhai sydd yn cael budd wrth wrandaw yw y rhai sydd yn gweled digon a gormod o bregethu. Y rhai sydd am ganu mawl i Dduw, nis digonir hwy â chaniadau mawl, mwy nag y digonir gwir wrandawyr â gwrandaw; ac nid oes neb o berchen dysg, synwyr, a phrofiad, nad yw yn gwybod fod amryw ddoniau yn adeiladol.

Er mai ceisio tynu at yr un sylwedd, ac at yr un athrawiaeth, y mae y rhan fwyaf o'r Hymnau a gyfansoddwyd eisoes, eto fel y maent wedi eu gwisgo â phrofiadau newyddion, goleuni newydd, troell-ymadroddion a mesurau newyddion, mae eu hamrywioldeb, yn llaw yr Yspryd tragwyddol, i gyffroi teimlad o gariad Duw. Buasai y Beibl ei hun yn llawer llai pe buasai hebddim ail-adrodd ynddo. Buasai ychydig chwanegiad at un o'r pedwar Efengylwr yn cyflawni lle y tri ereill; busai haner y Salmau yn cyflawni ystyr y lleill oll; ni fuasai raid wrth amryw benodau o lyfrau Moses, nac ychwaith amryw fanau o'r Breninoedd a'r Croniclau, oni buasai fod Duw am fendithio ail-adrodd gwirioneddau, ac amrywioldeb yn ei Air; rhoi i ni lin ar lin, gorchymyn ar orchymyn, pregeth ar ol pregeth, hymn ar ol hymn; ac ® ysgrifenu yr un pethau atoch¯, medd yr Apostol, ®genyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel¯.

Ond y trueni mwyaf yw fod llawer ohonom yn rhyfygu cyffwrd âg arch Duw heb alwad; ac, o bosibl, o awydd i barch, i gael eu henwau mewn®print¯, yn cyfansoddi hymnau heb gorph, enaid, cymalau, na mêr; heb brofiad nac ysbryd ag sydd yn cael argraff ar galonau difrifol. Nid yw gymaint i'w feio fod dynion di-ddysg yn cymeryd y gwaith mewn llaw, canys y mae Duw yn gwneud defnydd o'r dynion gwaelaf at orchwylion mawrion yn fynych; ac nid dysg Deborah, Barac, a Miriam, a'u gwnaeth hwy, na Dafydd chwaith, a'i gwnaeth yntau, y fath feirdd hynod yn Llyfr Duw, ond ysbryd, a zel, mwynhad o Dduw, a phrofiad, yn nghyda grym hwyl nefol, yn cydferwi o mewn, nes tori o'r tân allan mewn caniadau melus a bery byth. Ond yr hyn sydd i'w feio yw, fod yr ysbryd hwn yn eisieu yn amryw o'r papyrau diweddar.

Harddwch y Salmau yw eu hysbryd, eu ffydd, a'u profiad, heblaw eu bod wedi eu rhoddi gan yr Ysbryd Glân; ac nid un o'r nodau lleiaf fod Llyfr y Caniadau yn ganonaidd, yw y blas ag y mae y saint yn ei gael ynddo; ac o'r tu arall, yr ysbryd dyeithr sydd yn llyfrau yr Apocrypha sydd un dystiolaeth eglur na roddwyd o honynt gan yr Ysbryd Glân; ac os collir blas ar hymnau, aent tros fynyddoedd yr India, lle na chlywo Cymro o honynt byth mwy.

Mi a gynghorwyn yn ostyngedig i bwy bynageto addanfono hymnau i'r argraff-wasg, yn 1. -- I ymofyn am wir ras eu hunain; gwir adnabid Duw yn ei Fab; heb ba beth y mae yn rhyfyg ofnadwy i gyftwrdd âg arch Duw.

2. Darllen yn Saesneg, os nad allant ddarlen mewn ieithoedd ereill, bob llyfrau o brydyddiaeth addas a allont gyrhaedd, er mwyn helaethu eu deall, i adnabod prydyddiaeth -- pa le y mae ei thegwch hi yn gorphwys, at ba ddyben y mae, a'r amryw reolau sydd yn perthyn iddi.

3. Pa un bynag a'u bod ai peidio yn gallu cyrhaedd y peth olaf, eto darllenent drachefn a thrachefn lyfrau y Prophwydi, a'r Salmau, y Galarnad, y Caniadau, Job, a'r Dadguddiad, y rhai sydd nid yn unig yn llawn o ehediadau prydyddiaeth, troell-ymadroddion, amrywioldeb, esmwythder iaith, a chyffelybiaethau bywiog, ond ag ysbryd hefyd ag sydd yn enyn tân, zel, a bywyd yn y darllenydd tu hwnt (am mai llyfrau Duw y'nt) i bob llyfrau yn y byd.

4. Peidio gwneud un Hymn fyth nes y byddont yn teimlo eu heneidiau yn agos i'r nef, tan awelon yr Ysbryd Glân; a'r Ysbryd hwnw a fydd barod i fendithio ei waith. Amen.

Mae yma ychydig fesurau newyddion, a mi a fynaf, ar ol fy addewid, roddi y mesurau, (h.y. tonau) i ryw ychydig a fedr eu tynu hwynt allan. Mae deg neu ddeuddeg yn ddigon o honynt tros Ddeheudir Cymru, os bydd ewyllys i'w taenu hwynt ar led.

Ffarwel. 
Eich Brawd,

W.W.

End of File. Return to Top . . .

Return to Notes on William Williams Pantycelyn - Hymns.

(The Rejoice & Sing Enchiridion:edited by David Goodall; last amended 7/7/01)